Bydd gwersyll i gartrefi ffoaduriaid Mwslimaidd a Hindŵaidd Rohingya sy’n dychwelyd o Fangladesh i Myanmar yn barod yr wythnos nesaf.

Fe adawodd mwy na 650,000 o Fwslimiaid ethnig Rohingya o Myanmar i Fangladesh ym mis Awst y llynedd yn dilyn ymosodiadau ar orsafoedd heddlu gan grŵp milwrol.

Mae swyddogion yn bwriadu cychwyn y broses ail-ddychwelyd ar Ionawr 23, sef dydd Mawrth nesaf.

“Rydym wedi cynllunio ymlaen i allu derbyn y rhai sy’n dychwelyd o’r wythnos nesaf ac rydym yn siŵr y gwneir hyn ar amser,” meddai Win Myat Aye, gweinidog lles cymdeithasol Bangladesh.

Fe adroddodd cyfryngau yn Myanmar ddoe y bydd y gwersyll 124 erw Hla Po Khaung yn gallu cartrefu o gwmpas 30,000 o bobol mewn 625 o adeiladau, a bod o leiaf gant o adeiladau i’w cwblhau erbyn diwedd y mis.

Hwn fydd y gwersyll cyntaf i gael ei adeiladu fel rhan o’r broses ail-gartrefu.