Mae Llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, Donald Tusk, wedi mynnu mwy o eglurder gan Brif Weinidog Prydain, dros ei chynlluniau ar gyfer Brexit – ac unwaith eto, mae’n dweud ei fod yn agored i’r posibilrwydd y bydd y Deyrnas Unedig yn newid meddwl.

“Os byddan nhw’n llwyddo i benderfynu gadael, bydd Brexit yn dod yn realiti – gyda’i holl ganlyniadau negyddol – ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf oni bai bod newid calon ymhlith ein ffrindiau Prydeinig,” meddai Donald Tusk wrth fynd i’r afael ag Aelodau Senedd Ewrop yn Strasbwrg.

Mae’n mynnu nad yw’r Undeb Ewropeaidd wedi “newid meddwl” dros Brexit, ac yn dweud wrth y Prydeinwyr bod “calonnau [Ewrop] yn dal i fod ar agor i chi”.

“Mae’r gwaith anoddaf o’n blaenau ac mae amser yn brin,”  meddai Donald Tusk wrth alw am undeb parhaus ymhlith y 27 aelod arall o’r Undeb Ewropeaidd.

“Rhaid i ni gynnal undod yr UE27 ym mhob sefyllfa, ac yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwn ni.”