Mae Gogledd a De Corea wedi cytuno mewn egwyddor i gychwyn tîm hoci iâ ar y cyd yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf nesaf yn Ne Corea.

Mae’r ddwy wlad wedi trosglwyddo eu cynnig i’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC).

Dywedodd y llefarydd, Hwang Seong Un, y byddai’r mater yn cael ei drafod ddydd Sadwrn pan fydd swyddogion o ogledd a de’r wlad yn cyfarfod a’r Pwyllgor ym mhencadlys yr IOC yn Lausanne, y Swistir.

Byddai tîm ar y cyd yn gofyn am gymeradwyaeth yr IOC. Os y daw sêl bendith, dyma fyddai’r tîm Olympaidd unedig cyntaf o Corea.