Mae Donald Trump dan y lach o sawl cyfeiriad yn dilyn honiadau iddo gwestiynu pam bod yn rhaid i America dderbyn mewnfudwyr o Haiti a  “sh**hole countries” yn Affrica.

Mae swyddfa hawliau dynol y Cenhedlaeth Unedig wedi dweud y gallai sylwadau o’r fath “fod â’r gallu i darfu ar fywydau nifer iawn o bobol” a dywedodd yr Undeb Affricanaidd ei fod wedi “dychryn”.

Dywedodd Haiti bod y sylwadau yn “hiliol”.

Tra bo Donald Trump yn gwadu dweud y geiriau tramgwyddus, dywedodd llefarydd y Cenhedloedd Unedig: “Fedrwch chi ddim galw gwledydd a chyfandiroedd cyfan yn ‘sh**holes’.”

Ychwanegodd Rupert Colville bod y sylwadau yn rhai “cywilyddus a syfrdanol”.

Mae gan Arlywydd America hanes o ladd ar Affrica.

Yn 2013 fe drydarodd: “Bydd pob ceiniog o’r 7 biliwn o ddoleri sy’n mynd i Affrica gan Obama yn cael ei ddwyn – mae llygredd yn rhemp!”