Mae Ecwador wedi cyflwyno dinasyddiaeth y wlad i sylfaenydd y wefan WikiLeaks, Julian Assange.

Fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Tramor Ecwador heddiw fod swyddogion wedi penderfynu gwneud yr ymgyrchydd yn ddinesydd llawn, tra’u bod nhw’n chwilio am ddatrysiad i’w sefyllfa.

Mae Julian Assange, a gafodd ei eni yn Awstralia, wedi cael lloches yn Llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers 2012, a hynny er mwyn osgoi cael ei arestio gan awdurdodau Sweden am honiadau o gamymddwyn yn rhywiol.

Er i Sweden dynnu’r cyhuddiadau yn ôl y llynedd,  fe barhaodd Julian Assange i dderbyn lloches gan ei fod o dan fygythiad o gael ei arestio gan heddlu gwledydd Prydain am dorri rheolau mechnïaeth pe bai’n gadael.

Ond mae Swyddfa Dramor llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi ei bod wedi gwrthod cais y wlad i roi’r statws diplomyddol iddo.