Mae lladron arfog wedi dwyn gemwaith sy’n werth miliynau o bunnoedd o westy moethus y Ritz yn ninas Paris.

Yn ôl heddlu Ffrainc, fe ddaeth pum lleidr, rhai ohonyn nhw ag arfau, i mewn i’r gwesty nos Fercher, a dwyn nwyddau “o werth sylweddol”.

Mae un o orsafoedd teledu’r wlad, BFM, yn adrodd fod gwerth 4.7 miliwn ewro [£4.16m] o emwaith wedi mynd.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu wedi cadarnhau bod neb wedi’u hanafu yn y lladrad, a ddigwyddodd am tua 6:30yh, Rhagfyr 10.

Mae tri o bobol wedi cael eu harestio, tra bod dau arall yn dal ar ffo.