Mae o leia’ 13 o bobol wedi’u lladd, a chartrefi wedi’u rhwygo o’u sylfeini, mewn llifogydd yn ne Califfornia.

Mae mwd a cherrig mawr wedi bod yn llithro i lawr ochrau bryniau a oedd eisoes wedi’u llarpio gan danau gwyllt yn y dalaith ym mis Rhagfyr.

Mae criwiau achub wedi bod yn defnyddio hofrenyddion i achub rhyw 50 o bobol o ben toeau, oherwydd bod coed a pholion teligraff yn rhwystrau ar draws y ffydd. Mae dwsinau o bobol eraill wedi’u hachub wrth i ymladdwyr tân eu tynnu o ganol mwd trwchus.

Mae’r rhan fwya’ o’r marwolaethau wedi’u cofnodi yn Montecito, ardal gyfoethog i’r gogledd orllewin o Los Angeles lle mae tua 9,000 o bobol yn byw. Yn eu plith mae’r enwogion Oprah Winfrey, Rob Lowe ac Ellen DeGeneres.

Mae beth bynnag 25 o bobol wedi’u hanafu, ac mae yna bobol o hyd nad oes neb yn gwybod eu hynt a’u helynt.