Mae un o’r daeargrynfeydd mwyaf i daro ardal y Caribî ers degawdau, wedi taro oddi ar arfordir Honduras nos Fawrth.

Fe gafodd y tir mawr ei ysgwyd, ac fe gafodd rhybudd tswnami ei gyhoeddi, ond yn rhyfeddol ni chafwyd dinistr mawr na llawer o anafiadau.

Fe ddechreuodd y ddaear grynu toc cyn 10yh, ac fe gafwyd adroddiadau o graciau’n ymddangos yn waliau cartrefi yn nhaleithiau Colon ac Atlantida ar arfordir gogleddol Honduras, ac yn Olancho yn y dwyrain.

Roedd y rhybudd tswnami wedi’i gyhoeddi ar gyfer Puerto Rico, Ynysoedd Cayman, Cuba, Jamaica ac ynysoedd eraill y Caribî, yn ogystal ag arfordiroedd Mecsico.

Mae’r daeargryn wedi’i gofnodi fel un o faint 7.6.