Mae achubwyr wedi canfod corff ym Môr Dwyrain Tsieina, a’r gred yw mai morwr ydyw oddi ar dancer olew o Iran.

Mae 31 o bobol eraill yn dal i fod ar goll oddi ar y bad o’r enw ‘Sanchi’ a aeth i drafferthion yn yr ardal.

Dyw’r corff ddim wedi’i adnabod yn swyddogol eto, ond roedd yn gwisgo siwt amddiffynnol sydd wedi’i gynllunio i wrthsefyll dŵr môr oer.

Nid oes unrhyw sôn am y morwyr eraill sydd ar goll ers i’r Sanchi wrthdaro â llong arall yn hwyr ddydd Sadwrn (Ionawr 6).

Mae cyfryngau Tsieina yn adrodd fod y tancer yn dal i fod ar dân, a’i bod mewn peryg o ffrwydro.

Roedd y Sanchi yn hwylio o Iran i Dde Corea pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad 160 milltir oddi ar arfordir Shanghai.