Mae dyn a gafodd anafiadau difrifol yn dilyn ffrwydrad yn Stockholm wedi marw.
Digwyddodd y ffrwydrad ger gorsaf danddaearol ar ôl i rywun godi dyfais o’r llawr i edrych arni.
Cafodd dyn 60 oed a dynes 45 oed anafiadau.
Dydy’r awdurdodau ddim yn trin y ffrwydrad fel ymosodiad brawychol.
Mae ymchwiliad ar y gweill.