Mae trafodaethau ar y gweill yn yr Almaen i ffurfio llywodraeth glymblaid newydd.

Mae Ceidwadwyr y Canghellor Angela Merkel a’r Democratiaid Sosialaidd yn awyddus i ddod i gytundeb ar ôl cyfnod o dri mis o ansicrwydd ers yr etholiad cyffredinol.

Y ddwy blaid sydd wedi bod wrth y llyw ers pedair blynedd.

Dywedodd y Democratiaid Sosialaidd y bydden nhw’n canolbwyntio ar fod yn wrthblaid ar ôl canlyniadau siomedig yn yr etholiadau ar Fedi 24.

Ond ar ôl i drafodaethau rhwng Angela Merkel a dwy blaid arall ddod i ben yn aflwyddiannus ddeufis yn ôl, fe wnaeth y Democratiaid Sosialaidd dro pedol.

Dyma’r trafodaethau hwyaf ers yr Ail Ryfel Byd cyn ffurfio llywodraeth, ac mae’r pleidiau’n bwriadu dod i gytundeb erbyn dydd Gwener.