Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dweud ei fod yn “athrylith sefydlog iawn”, wrth ymateb i feirniadaeth a sylwadau am ei gyflwr meddyliol.

Mae’n gwadu nad yw’n “ffit” i fod yn Arlywydd, yn dilyn sylwadau gan awdur oedd yn dweud nad oedd e wedi bwriadu mentro i’r byd gwleidyddol yn y lle cyntaf, a bod ei staff yn credu nad oedd yn gymwys i fod yn ei swydd.

Mae’r llyfr Fire and Fury: Inside the Trump White House gan Michael Wolff wedi achosi ffrae fawr rhwng yr Arlywydd a’i gyn-strategydd Steve Bannon, oedd wedi cael ei ddyfynnu yn y gyfrol.

Ar wefan gymdeithasol Twitter, mae Donald Trump wedi cyhuddo’i feirniaid o wneud môr a mynydd o’i “sefydlogrwydd meddyliol a’i allu”.

“Mewn gwirionedd, yn ystod fy mywyd, fy nau brif ased oedd sefydlogrwydd meddyliol a bod yn, fatha, smart iawn,” meddai.

Ychwanegodd ei fod e wedi mynd o fod yn “ddyn busnes smart iawn i fod yn brif seren deledu ac i Arlywydd yr Unol Daleithiau (ar fy nghynnig cyntaf)”.

Dywedodd fod hynny’n ei wneud yn “athrylith… ac yn athrylith smart iawn hefyd!”

Gwadu ansefydlogrwydd

Mae llefarydd ar ran Donald Trump wedi gwadu ei fod yn arweinydd ansefydlog.

Ar deledu yn yr Unol Daleithiau, dywedodd Sarah Huckabee nad oedd Michael Wolff wedi cyfweld â Donald Trump ar gyfer y gyfrol, a’i fod yn “foi oedd wedi creu lot fawr o straeon er mwyn gwerthu llyfrau”.

Ond mae Michael Wolff yn mynnu ei fod e wedi siarad â Donald Trump, ac nad oedd y sgwrs “oddi ar y record”.