Mae swyddog yn Seoul wedi dweud bod Gogledd a De Corea wedi cytuno i gynnal eu trafodaethau cyntaf ers dwy flynedd ddydd Mawrth nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth De Corea, Baik Tae-hyun, bod Gogledd Corea wedi derbyn cynnig Seoul i gwrdd i drafod sut i gydweithio cyn Gemau Olympaidd y Gaeaf a fydd yn cael eu cynnal yn Pyeongchang fis nesaf.

Fe fyddan nhw’n cwrdd ym mhentref Panmunjom, sydd wedi’i leoli ar y ffin, er mwyn trafod sut y gall y ddwy wlad gydweithio ar y Gemau Olympaidd ac i wella eu perthynas.

Daw’r cyhoeddiad hwn oriau ar ôl i’r Unol Daleithiau ddweud y bydden nhw’n oedi rhag cynnal ymarferiadau milwrol ar y cyd â De Corea tan ar ôl y Gemau.

Fe roddodd De Corea y cynnig am drafodaethau gerbron y Gogledd ddechrau’r wythnos hon, a hynny ar ôl i Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea, gyhoeddi yn ei anerchiad ar gyfer y flwyddyn newydd y byddai’n fodlon anfon cynrychiolwyr o’r wlad i’r gemau.

Y cynnig oedd y dylai arweinwyr y ddwy wlad gwrdd yn Panmunjom ar Ionawr 9.