Fe allai dadl chwerw tros enw’r wlad fechan y drws nesa’ i Groeg, gael ei datrys eleni, yn ôl swyddogion yn Athen.

Mae gweinidog tramor Groeg, Nikos Kotzias, yn ceisio dod i gytundeb ar enw sy’n dderbyniol gan bawb ar Macedoni – y wlad fechan a enillodd ei hannibyniaeth wrth i’r hen Iwgoslafia chwalu yn 1991.

Byth ers hynny, mae’r ddwy wlad wedi anghytuno tros yr enw Macedonia – gyda Macedonia ei hun yn dweud mai dyna’r enw oedd arni am amser hir cyn ennill ei hannibyniaeth.

Ond yn ôl Groeg, mae’r enw yn tarfu ar y rhanbarth yn nwyrain eu gwlad nhw, sy’n cario’r un enw.

Mae llywodraeth newydd Macedonia wedi dweud ei bod yn fodlon dod o hyd i ateb i’r broblem unwaith ac am byth.