Mae gweithwyr achub yn Ne Affrica yn dweud fod “degau” o bobol wedi’u lladd mewn damwain trên.
Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r grwp ymateb i argyfyngau, ER24, yn adrodd fod cymaint â chant o bobol wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng Hennenman a Kroonstad.
Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu fod y trên wedi mynd ar dân wedi iddi gael ei tharo gan lori.