Mae arweinydd Ethiopia wedi cyhoeddi cynlluniau i ollwng cyhuddiadau yn erbyn carcharorion gwleidyddol a chau gwersyll dadleuol, wedi iddo geisio “ehangu’r gofod democrataidd i bawb” yn y wlad.

Fe ddaw sylwadau’r prif weinidog Hailemariam Desalegn yn annisgwyl, wedi cyfres o brotestiadau yn erbyn ei lywodraeth. Roedd y gwrthdystio wedi bod yn ardaloedd Oromia ac Amhara dros y misoedd diwethaf, gan effeithio ar fusnesau a threfniadau teithio.

“Fe fydd carcharorion gwleidyddol sy’n wynebu erledigaeth neu sydd eisoes yn y ddalfa, yn cael eu rhyddhau,” meddai.

“Ac fe fydd y gell ddadleuol a elwir ‘Maekelawi’ yn cael ei chau i lawr, a’i throi’n amgueddfa.”

Mae pobol o Ethiopia wedi bod yn ymateb yn lleng ar wefannau cymdeithasol, a’r mwyafrif llethol yn croesawu’r cyhoeddiad.