Mae protestiadau o blaid y llywodraeth wedi cael eu cynnal mewn dinasoedd ledled Iran, a hynny yn dilyn wythnos o brotestiadau yn erbyn yr arweinwyr.

Mae’r protestiadau newydd hyn, yn ôl cyfryngau’r wlad, yn brotestiadau “yn erbyn y trais” sydd wedi bod dros yr wythnos ddiwethaf, ac sydd wedi lladd beth bynnag 21 o bobol.

Fe ddechreuodd y gwrthdaro gyda’r awdurdodau yn ail ddinas fwyaf Iran, Mashhad, ar Ragfyr 28, wrth i bobol dyrru i’r strydoedd i gwyno am gyflwr gwael yr economi a’r cynnydd mewn prisiau bwyd.

Ers hynny, mae’r protestiadau wedi lledu i bob rhanbarth yn y wlad, a gyda channoedd o brotestwyr wedi cael eu harestio, mae un barnwr wedi rhybuddio y gall ambell un wynebu’r gosb eithaf.

Er hyn, daw’r don o brotestiadau newydd o blaid y Llywodraeth ar ôl i arweinydd Iran, Ayatollah Ali Khamenei, ddweud mai “gelynion Iran” sy’n gyfrifol am gynnwrf yr wythnos ddiwethaf.