Mae dyn a yrrodd ei gar i ganol torf o bobol ym mhrifddinas Awstralia, wedi’i gyhuddo o lofruddio, wedi i bensiynwr farw o ganlyniad i’w anafiadau.

Mae Saeed Noori, 32, wedi’i gyhuddo o 18 achos o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad y tu allan i orsaf Flinders Street ym Melbourne. Fe gafodd 19 o bobol eu hanafu.

Mae ditectifs bellach wedi uwchraddio un o’r cyhuddiadau, yn dilyn marwolaeth dyn 83 oed ar Ragfyr 29.

Mae Saeed Noori, cyn-ffoadur o Afghanistan sydd bellach yn ddinesydd Awstralia, hefyd yn wynebu cyhuddiad o ymddwyn mewn ffordd oedd yn peryglu bywyd. Mae wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos eto gerbron llys ar Fai 30.