Mae tua 40,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan yn Llydaw yn Ffrainc yn dilyn storm.
Roedd storm Carmen wedi taro arfordir Ffrainc ddydd Llun, gyda’r swyddfa dywydd yno, Meteo-France, yn rhybuddio am wyntoedd hyd at 87mya.
Mae dinasoedd glan môr wedi canslo eu digwyddiadau traddodiadol ar Ddydd Calan lle mae pobol yn mynd i nofio yn y môr.
Mae disgwyl i’r storm symud ar draws y wlad tuag at yr Almaen dros nos.