Mae dau o bobol wedi marw ar ôl cael eu hanafu gan dân gwyllt mewn dathliadau Nos Calan yn yr Almaen.

Yn ôl adroddiadau gan asiantaeth newyddion dpa, bu farw dyn 35 oed ar ôl cynnau tân gwyllt yn rhanbarth Brandenburg, a chafodd dyn 19 oed anafiadau angheuol i’w ben ar ôl iddo gynnau dyfais yr oedd wedi’i gwneud ei hun.

Yn dilyn achosion o boenydio merched yn rhywiol yn Cologne yn 2016, roedd yr heddlu wedi tynhau eu mesurau diogelwch eleni er mwyn diogelu merched.

Dywed yr heddlu bod saith achos o boenydio rhywiol wedi cael eu cofnodi yn Cologne tra bod Berlin wedi cofnodi 10 o achosion gyda saith o bobol wedi’u harestio.

Bu cannoedd ar filoedd yn dathlu’r flwyddyn newydd ger Giât Brandenburg neithiwr.