Mae dyn wedi cael ei arestio mewn perthynas ag ymosodiad brawychol yn Rwsia ddydd Mercher.

Roedd y ffrwydrad mewn archfarchnad yn St Petersburg wedi anafu 18 o bobol.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pwy yw’r unigolyn sydd wedi cael ei arestio, ond mae lle i gredu ei fod e wedi gweithredu ar ei ben ei hun.

Ond mae Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – wedi hawlio cyfrifoldeb.

Yn ôl Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ymosodiad brawychol oedd hwn, gan bwysleisio ei fod e wedi gorchymyn yr awdurdodau i saethu unrhyw un sydd wedi’i amau o ymosodiad brawychol yn farw ar unwaith os ydyn nhw’n gwrthod cael eu harestio.