Mae’r Goruchaf Lys yn Rwsia wedi cefnogi’r gwaharddiad ar yr ymgeisydd arlywyddol Alexei Navalany rhag sefyll yn etholiad y wlad ym mis Mawrth.

Gwrthododd y llys apêl gan Alexei Navalny yn erbyn penderfyniad Comisiwn Etholiadol Canolog y wlad, gan ddweud ei fod yn un cyfreithlon.

Mae disgwyl i Vladimir Putin gael ei ethol am bedwerydd cyfnod wrth y llyw ar Fawrth 18.

Roedd Alexei Navalny wedi bod yn ymgyrchu er iddo gael ei wahardd ers blwyddyn ar sail collfarn am dwyll.

Fe gafodd ei wahardd yn ffurfiol ddydd Llun diwethaf, ond mae ei gefnogwyr yn dweud bod y penderfyniad wedi’i wneud am resymau gwleidyddol yn unig.

Roedd Alexei Navalny wedi bod yn galw am foicotio’r etholiad – ac fe allai wynebu camau am wneud hynny.