Mae o leiaf 40 o bobl wedi’u lladd ac 30 wedi’u hanafu mewn ymosodiad ar ganolfan ddiwylliannol Shiaidd yn Kabul, prifddinas Afghanistan, meddai’r heddlu.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod hunan-fomwyr wedi ffrwydro dyfais y tu allan i’r ganolfan cyn mynd i mewn i’r adeilad.
Cafodd nifer o ddyfeisiadau eraill eu tanio ar lawr isaf yr adeilad lle’r oedd dwsinau o bobl wedi dod ynghyd i nodi’r ymosodiad ar Afghanistan ym mis Rhagfyr 1979 gan y cyn-Undeb Sofietaidd.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.