Mae bom car wedi ffrwydro ger gwersyll milwrol ger tref Lashkar Gah yn ne Afghanistan, gan anafu beth bynnag ddwsin o bobol.
Roedd pob un ond un o’r rheiny gafodd eu hanafu yn filwyr, ac yn rhan o gonfoi oedd yn gadael y gwersyll ar y pryd.
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad gan hunanfomiwr.
Lashkar Gah ydi prifddinas talaith Helmand, lle mae’r Taliban yn ei ystyried yn gadarnle a lle maen nhw’n cynnal ymosodiadau dyddiol.