Mae lluoedd yr Unol Daletihiau yn honni fod maelodau o’r grwp eithafol, al Shabab, wedi cael eu lladd gan ymosodiad awyr yn ne Somalia heddiw.

Mae’r datganiad yn dweud fod 13 o aelodau wedi marw yn ystod y cyrch fore Sul (Noswyl Nadolig) rhyw 31 milltir i’r gogledd-orllewin o Kismayo.

Yn ol yr un datganiad, chafodd neb o bobol gyffredin ei ladd.

Al Shabab sy’n cael ei feio am fomio prifddinas Somalia, Mogadishu, ym mis Hydref eleni, gan ladd 512 o bobol.