Mae storm wedi dod â 53 modfedd o eira i Pennsylvania a’r cyffiniau.

Yn ol swyddfa’r Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn Cleveland, fe ddaeth storm Nadoligaidd nos Lun â 34 modfedd.

Fe syrthiodd 19 modfedd arall cyn i’r wawr dorri fore Mawrth, gan ddod â’r cyfanswm i 53 modfedd.

Dyma’r mwyaf o eira i gwympo yno ers 1958. Cyn hyn, y record oedd 44 modfedd, a hwnnw wedi syrthio yn Morgantown bron i 60 mlynedd yn ol.

Mae dinas Erie wedi cyhoeddi stad o argyfwng eira, gan nodi fod y ddinas yn “beryglus” oherwydd bod y ffyrdd yn “amhosib eu tramwyo”. Mae’r awdurdodau’n gofyn i drigolion aros yn eu tai, ac i beidio mentro allan i’r strydoedd nes y bydd hi wedi stopio bwrw eira.

Mae’r heddlu yn dweud wrth bobol am beidio mentro teithio, gan ei bod hi’n amhosib gweld yn bell, a bod cyflwr y ffyrdd yn wael iawn.