Mae pymtheg o wrthryfelwyr Islamaidd, wedi’u cael yn euog o ymosod ar safle milwrol ym Mhenrhyn Sinai bedair blynedd yn ol, wedi cael eu dienyddio.
Fe ddigwyddodd y lladd mewn dau garchar i’r gorllewin ac i’r gogledd-orllewin o ddinas Cairo.
Dyma’r nifer mwyaf o ddienyddiadau o fewn un dydd ers dechrau’r ymladd yn yr Aifft bedair blynedd yn ol.
Fe gafodd y pymtheg eu crogi.
Roedden nhw eisoes wedi’u cael yn euog mewn tribiwnlys milwrol o ymosod ar swyddog ac wyth milwr o fyddin yr Aifft yn 2013.
]