Mae Sawdi Arabia yn cynnal twrnament gwyddbwyll y byd – er bod arweinwyr crefyddol yn gwrthwynebu’r gêm fwrdd.

Ddwy flynedd yn ôl, fe gyhoeddodd prif glerigwr y wlad, Sheikh Abdulaziz Al Sheikh, fod gwyddbwyll wedi ei “gwahardd” yn Islam, oherwydd ei bod yn wastraff amser ac yn gallu denu pobol i gamblo.

Am yr un rhesymau, mae clerigwyr yn Iran wedi gwahardd y gêm.

Mae’r twrnament diweddaraf yn Sawdi Arabia yn destun ffraeo gwleidyddol hefyd. Mae’r wlad wedi anwybyddu ceisiadau gan chwaraewyr o Israel i gael fisas i gymryd rhan.

Yn y cyfamser, mae chwaraewyr o Qatar ac Iran, dwy wlad lle mae yna densiynau rhyngddyn nhw a Sawdi Arabia, wedi cael fisas sy’n eu galluogi nhw i gymryd rhan.