Mae pobol Liberia yn pleidleisio am arlywydd newydd mewn etholiad lle bydd un llywodraeth ddemocrataidd yn trosglwyddo grym i lywodraeth ddemocrataidd arall am y tro cyntaf mewn mwy na 70 mlynedd.

Fe fydd y genedl – a gafodd ei sefydlu gan gaethweision wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau – yn dewis rhag y cyn-bêl-droediwr, George Weah, 51, a’r dirprwy arlywydd, Joseph Boakai, 73.

Mae bron i 2.2 miliwn o bleidleiswyr yn ethol olynydd i’r fenyw gyntaf erioed i fod yn arlywydd y wlad, Ellen Johnson Sirleaf. Mae hi’n camu o’r neilltu ar ol dau dymor yn arlywydd, ac wedi iddi arwain ei gwlad allan o ryfeloedd cartref ac o gyfnod yn ymladd y clefyd, ebola.