Mae ugain o bobol wedi’u lladd wedi i fws fod mewn gwrthdrawiad â fan oedd yn cario pobol i offeren y Nadolig mewn eglwys yn y Philipinas.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod pob un o’r rheiny gafodd eu lladd ger tref Agoo yn teithio yn y fan.

Fe gafodd deg o deithwyr eraill, ynghyd â gyrrwr y fan ac 17 o deithwyr y bws eu hanafu hefyd yn y digwyddiad.

Roedd y fan ar ei ffordd i Eglwys y Fair Forwyn Manaoag yng ngogledd talaith Pangasinan – mae’n lle poblogaidd iawn ar gyfer pererinion a Chatholigion sy’n dymuno gweddïo am wellhad pobol dlawd a sâl.