Mae Brenin Sbaen wedi ymyrryd eto ym mrwydr annibyniaeth Catalwnia gan roi’r pwysau ar arweinwyr y wlad – yn hytrach na rhai Sbaen – i chwilio am gymod.

Er fod ei neges yn llawer mwy cymodlon na’r anerchiad a wnaeth bron dri mis yn ôl yn union wedi’r refferendwm annibyniaeth, mae FelipeVI unwaith eto wedi dweud bod rhaid i arweinwyr Catalwnia feddwl am yr holl drigolion – cyfeiriad posib at y cannoedd o filoedd o bobol o dras Sbaenaidd sydd yno.

Rhaid osgoi gwrthdaro ac eithrio, meddai, gan ddweud bod hynny’n arwain at “anghytgord, ansicrwydd a gofid”.

Ansicrwydd

Mae ansicrwydd o hyd ynghylch cyfeiriad Catalwnia ar ôl i bleidiau annibyniaeth ennill mwyafrif main mewn etholiadau a oedd wedi cael eu gorfodi ar y wlad gan Lywodraeth Sbaen.

Ond, yn ôl Felipe VI, roedd rhaid  “arweinwyr Catalwnia wynebu’r problemau sy’n effeithio ar bawb yng Nghatalwnia, gan barchu eu hamrywiaeth a gan feddwl yn gyfrifol am y lles cyffredinol”.

Mae Llywodraeth Sbaen wedi cael eu condemnio’n eang am eu hagwedd ymosodol cyn ac ar ôl y refferendwm ac mae rhai o arweinwyr y Catalwnia’n parhau’n alltud ac yn y carchar.