Mae Gogledd Corea wedi cyhuddo’r Cenhedloedd Unedig o gyflawni “gweithred ryfelgar” drwy osod rhagor o sancsiynau arnyn nhw.

Cafodd sancsiynau newydd eu cymeradwyo ddydd Gwener wrth ymateb i’r ymosodiad diweddaraf o’r awyr â thaflegrau o du Pyongyang sy’n gallu cyrraedd yr Unol Daleithiau.

Cafodd y sancsiynau eu llunio gan yr Unol Daleithiau, a’u cymeradwyo gan Tsieina.

Ond mae Gogledd Corea yn dweud eu bod yn bygwth heddwch a sefydlogrwydd yn y wlad, a’u bod yn bwrw economi’r wlad, ac maen nhw wedi rhybuddio na fyddan nhw’n ildio’u harfau niwclear.