Mae mwy na 2,700 o weithwyr sector cyhoeddus yn Nhwrci wedi cael eu diswyddo yn sgil eu cysylltiadau honedig â grwpiau brawychol.

Yn ôl adroddiadau’r wasg yn y wlad, mae’r rhai sydd wedi’u diswyddo’n cynnwys 637 o weithwyr y lluoedd arfog, 360 o aelodau’r heddlu a 150 o academyddion a gweithwyr prifysgolion.

Ond mae o leiaf 115 o bobol oedd wedi’u diswyddo yn y gorffennol wedi cael dychwelyd i’r gwaith.

Mae llywodraeth y wlad hefyd wedi dirwyn dau bapur newydd i ben, ynghyd â 14 o gymdeithasau a chlinig iechyd.

Argyfwng

Daw’r newyddion yn dilyn ymdrechion y llynedd i ddymchwel y llywodraeth – ac mae’r clerigwr Fethullah Gulen yn cael y bai am hynny, wrth i Dwrci honni ei fod yn aelod o fudiad brawychol.

Mae Twrci wedi cyhoeddi argyfwng, ac mae hyd at 50,000 o bobol bellach wedi cael eu harestio gan y llywodraeth, a 110,000 o weision sifil wedi’u diswyddo.

Ond mae gwrthwynebwyr yn honni bod y llywodraeth yn camddefnyddio’u grym i dawelu eu gwrthwynebwyr.