Mae dros 120 o bobl wedi marw a 160 yn rhagor ar goll ar ôl storm drofannol achosi llifogydd a thirlithriadau yn y Philippines.
Fe ddigwyddodd y rhan fwyaf o’r marwolaethau yn nhaleithiau Lanao del Norte a Lanao del Sur yn ne’r wlad.
Storm drofannol Tembin yw’r ail o fewn wythnos, a’r ddiwethaf i daro’r wlad sy’n dioddef tua 20 teiphwn a storm bob blwyddyn.
Yn gynharach yr wythnos yma, cafodd 50 eu lladd gan seiclon drofannol arall, Vinta.