Mae barnwyr yn Rwmania wedi anfon cwyn swyddogol i’r llys cyfansoddiadol yn sgil pleidlais tros newidiadau i sustem gyfreithiol y wlad.

Gwnaeth 89 o farnwyr yr Uchel Lys tros Apeliadau a Chyfiawnder leisio’u cefnogaeth am y gwyn.

Yn ôl y gwyn dydy’r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno ddim yn gyfreithiol dan gyfansoddiad y wlad.

O ganlyniad i’r newidiadau bydd modd gwahardd datganiadau cyhoeddus am ymchwiliadau a chyfyngu defnydd fideos mewn achosion llys.

Mae miloedd o Rwmaniaid wedi bod yn protestio yn erbyn y newidiadau.

Pleidleisiodd Aelodau Seneddol o’u plaid ond mi fydd yn rhaid iddyn nhw dderbyn sêl bendith Arlywydd, Klaus Iohannis, dyn sy’n eu gwrthwynebu.