Mae Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, wedi galw am drafodaethau rhyngddo â Phrif Weinidog Sbaen, Mariono Rajoy, a hynny yn dilyn etholiad a welodd y pleidiau sydd o blaid annibynniaeth yn ennill mwyafrif.

Mewn datganiad ym Mrwsel amser heddiw, dywedodd yr arweinydd Catalan, sydd wedi bod yn alltud o’i wirfodd yng Ngwald Belg dros yr wythnosau diwethaf, fod yr etholiad yng Nghatlwnia ddoe yn dynodi “cyfnod newydd”.

Gyda hyn, nododd ei fod yn barod i gynnal trafodiaethau gyda Llywodraeth Sbaen, a hynny wedi i dros ddwy filiwn o bobol ddatgan eu cefnogaeth i annibyniaeth.

Dychwelyd i Barcelona?

Mae derbyn y “realiti” yn hanfodol os yw Llywdoraeth Sbaen a Chatalwnia am ddatrys eu problemau, meddai Carles Puigdemont wedyn, ac mae’n dweud ei fod hyd yn oed “yn barod i ddychwelyd i Barcelona” os bydd y Senedd newydd yn ei benodi’n arweinydd arni.

“Mae Catalwnia eisiau bod yn wlad annibynnol”, meddai, “dyna yw dymuniad pobol Catalwnia.”

Canlyniad yr etholiad

Er bod y canlyniadau yn dangos yn glir bod y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth wedi ennill mwyafrif, y blaid a enillodd y nifer fwyaf o seddi oedd y blaid ‘Sbaenaidd’ Y Dinasyddion.

Golyga hyn mai ei harweinydd hi fydd yn cael y cyfle cyntaf i ffurfio llywdroaeth, er gwaethaf y ffaith bod y pleidiau hynny a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth mewn lleiafrif – gyda phlaid Mariano Rajoy, Y Blaid Boblogaidd, ar waelod y rhestr.