Wedi’r etholiadau yng Nghatalwnia ddoe a welodd y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn ennill mwyafrif, mae Cymraes sy’n byw ar gyrion dinas Barcelona yn dweud bod y canlyniad yn brofiad “chwerw felys” iddi.

Yn ôl Alwenna Castell, sy’n dod yn wreiddiol o Langollen ac a bleidleisodd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn y refferendwm fis Hydref diwethaf, mae hi’n “hapus iawn” gyda chanlyniadau’r etholiad, ond yn pryderu ynghylch yr hyn sy’n mynd i ddigwydd o nawr ymlaen.

“Rydan ni’n hapus, wrth gwrs”, meddai, “mae yna ddeg pwynt o wahaniaeth, gyda’r pleidiau o blaid annibyniaeth wedi cael 70, a’r lleill 57.

“Ond beth sy’n mynd i ddigwydd rwan?”

Mariano Rajoy yn “gachgi”

Yn ôl hithau, mae canlyniadau’r etholiad hwn yn ergyd drom i Brif Weindiog Sbaen, Mariano Rajoy, ac yn fuddugoliaeth glir i Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, er gwaetha’r ffaith ei fod yn alltud o’i wirfodd yng Ngwlad Belg.

“Mae Rajoy yn coward”, meddai eto, “ddaeth o ddim i siarad neithiwr – mi ddaeth rhywun yn ei le fo.

“Mi roedd rhywun yn dweud ar y newyddion heddiw mai yn Sbaen y dylai etholiadau fod rwan – mae Rajoy wedi colli.”

Annibyniaeth “ddim yn mynd i ddigwydd”

Ond er gwaetha’r ffaith bod Alwenna Castell yn gefnogwr brwd i annibyniaeth, ac er bod y rheiny sydd o blaid annibyniaeth wedi ennill yr etholiad ddoe yn wyneb “anhawsterau mawr”, mae’n credu na ddaw annibyniaeth i Gatalwnia.

“Dw i wedi cael digon o aros, ond gawn ni byth annibyniaeth – nid yn fy oes i.

“Dw i’n ei weld o’n ofnadwy o anodd – dyw Scotland ddim hyd yn oed wedi cael annibyniaeth, nac’di? Ond mae Rajoy wedi colli…”