Mae’r awdurdodau ym Mecsico yn ymchwilio i sawl achos o lofruddiaeth wedi i gyrff gael eu darganfod wedi’u hongian uwchben traffyrdd.

Cafodd y cyrff eu hongian oddi ar bontydd uwchben prif ffyrdd talaith Baja California Sur.

Bellach mae cyfradd llofruddiaethau’r dalaith ymysg yr uchaf yn y wlad – dim ond taleithiau Colima a Guerrero sydd â chyfraddau uwch.

Cafodd rhai o’r cyrff eu hongian yn gyfagos â meysydd awyr, ac mae hynny wedi codi pryderon bod gangiau yn ceisio niweidio sector dwristiaeth yr ardal.

Mae Baja California Sur yn enwog am ei draethau, gyda 90% o refeniw’r dalaith yn deillio o dwristiaeth.