Mae mwy na dwsin o bobol wedi cael eu hanafu, rhai yn ddifrifol, ac mae dyn wedi’i arestio ar ôl i gar daro cerddwyr y tu allan i orsaf drenau fawr yn Awstralia.

Digwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i orsaf Stryd Flinders ym Melbourne am tua 5yp ddydd Iau [6yb yng ngwledydd Prydain].

Mae lluniau o’r safle yn dangos sawl person yn cael triniaeth feddygol tra bod car gwyn, Suzuki SUV, i’w weld wedi gwrthdaro â chiosg ffôn.

Mae’r heddlu lleol wedi trydar eu bod wedi arestio gyrrwr y car ac nad ydyn nhw’n gwybod pa mor ddifrifol yw anafiadau rhai pobol.

Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans, mae 13 o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty, tra bod dau berson yn cael eu hasesu gan barafeddygon yn y fan a’r lle.

Erbyn hyn, mae’r heddlu yn dweud eu bod wedi arestio ail ddyn.