Mae beth bynnag 17 o bobol, yn cynnwys menywod a phlant, wedi cael eu lladd gan gyrchoedd awyr ar bentref yng ngogledd-orllewin Syria.

Mae ymgyrchwyr hawlilau dynol yn y wlad yn dweud i ymosodiadau o’r awyr ar bentref Idlib daro pobol ddiniwed, yn cynnwys o leiaf bedwar o blant a dwy fam.

Mae’r ardal gyfan yn ne-orllewin y wlad dan ormes gwrthryfelwyr ers tair blynedd, ac mae lluoedd yr Arlywydd Bashar Assad yn ddiweddar wedi ailafael yn yr ymgyrch i geisio ad-feddiannu’r lle.