Mae coeden Nadolig swyddogol Rhufain yn destun sbort yn y ddinas.

Ers cael ei gosod ym mrîf sgwâr Piazza Vanezia ar Ragfyr 8, mae’r goeden 70 troedfedd o uchder wedi bod yn colli nodwyddau.

Er gwaetha’r addurniadau ysblennydd, mae’r goeden wedi colli cymaint o nodwyddau pinwydd, dydi hi ddim yn edrych fel coeden Nadolig mwyach.

Costiodd £40,000 i’w throsglwyddo o dde Tyrol, a bellach mae’r ddinas wedi dechrau ymchwilio i achos dirywiad y goeden.

Mae beirniaid wedi tynnu sylw at y ffaith bod coeden y Fatican – o wlad Pwyl yn wreiddiol – yn holliach.