Mae o leiaf tri o bobol wedi eu lladd ar ôl i drên cyflym ddod oddi ar y cledrau i’r de o Seattle yn yr Unol Daleithiau.

Roedd 80 o deithwyr a phump o griw ar y trên pan ddaeth oddi ar y cledrau, gydag 13 o’r cerbydau yn syrthio i’r ffordd o dan y bont gan daro ceir.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau bod tri o bobol wedi marw a chafodd mwy na 70 o bobl eu hanafu. Mae deg ohonyn nhw wedi cael anafiadau difrifol.

Mae’n debyg bod y trên wedi bod yn teithio ar gyflymder o 81.1mya ar ddarn o reilffordd newydd a oedd yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth achosodd i’r trên ddod oddi ar y cledrau wrth deithio o Seattle i Portland.

Yn dilyn y digwyddiad fe alwodd yr Arlywydd Donald Trump am ragor o wariant ar seilwaith.