Dyddiau’n unig sy’n weddill tan y bydd pobol Catalwnia’n wynebu’r blychau pleidleisio unwaith eto.

Mi fydd etholiad yn cael ei chynnal yng Nghatalwnia ddydd Iau (Rhagfyr 21) a hynny wedi i Brif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, alw amdano wedi iddo ddiddymu Llywodraeth Catalwnia ar ol iddyn nhw ddatgan annibyniaeth.

Mae’n ymddangos y bydd yn frwydr glos rhwng y rhai sy’n cefnogi annibyniaeth a’r etholwyr sydd eisiau aros yn rhan o Sbaen.

Yn y cyfamser mae gwleidyddion fu’n ymgyrchu dros annibyniaeth yn parhau yn y carchar ar gyhuddiadau o wrthryfela gan gynnwys Oriol Junqueras, cyn-ddirprwy Arlywydd Catalwnia, ac mae Carles Puigdemont yn cael lloches yng Ngwlad Belg.

Economi Catalwnia

Mae adroddiadau fod sefyllfa economaidd Catalwnia wedi ansefydlogi rhywfaint dros yr wythnosau diwethaf gydag arwyddion fod pobol yn oedi rhag buddsoddi yno.

Yn ogystal mae ffigurau manwerthu a thwristiaid wedi disgyn a chyfraddau diweithdra wedi codi gyda rhai busnesau’n symud o Gatalwnia i Sbaen.

Mae Catalwnia’n dal 19% o gynnyrch domestig gros Sbaen.