Yn Libanus mae’r heddlu wedi arestio dyn mewn  cysylltiad â marwolaeth aelod o staff llysgenhadaeth Prydain yn y brifddinas.

Cafwyd hyd i gorff Rebecca Dykes, y credir oedd yn 30 oed, ar ochr traffordd yn Beirut yn oriau man fore dydd Sadwrn.

Roedd hi wedi cael ei thagu gyda rhaff ac mae’r heddlu’n ceisio darganfod a oedd hi wedi dioddef ymosodiad rhywiol cyn ei marwolaeth.

Mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio wedi cyfaddef iddo ei lladd, meddai’r awdurdodau.

Yn ôl adroddiadau, roedd hi wedi bod mewn parti yn ardal Gemmayzeh yn Beirut nos Wener ac roedd disgwyl iddi hedfan yn ôl adre i’r Deyrnas Unedig yr wythnos hon ar gyfer y gwyliau Nadolig.

Mae ei theulu wedi son am eu galar ac mae teyrngedau iddi wedi cael eu rhoi ar wefannau cymdeithasol.