Mae dyn 59 oed yn Awstralia wedi’i gyhuddo o drefnu i werthu arfau ar ran Gogledd Corea, gan gynnwys cydrannau sy’n cael eu defnyddio i greu taflegrau balistig.

Mae Chan Han Choi yn hanu o Dde Corea ond mae bellach yn byw yn Sydney, ac fe ddefnyddiodd e systemau codio arbennig i drefnu’r gwerthiant ac i drafod cyflenwi taflegrau gwerth degau o filiynau o bunnoedd.

Roedd ei weithredoedd yn groes i sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig ac Awstralia yn erbyn Gogledd Corea, yn ôl yr heddlu.

Roedd y cyfarpar yr oedd yn trefnu ei werthu yn gallu cyfeirio taflegrau.

‘Peryglus’

Wrth ymateb i’r achos, dywedodd Prif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull: “Mae Gogledd Corea yn gyfundrefn beryglus, ddiofal, droseddol sy’n bygwth heddwch y rhanbarth. Mae’n ei chefnogi ei hun drwy dorri sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig, nid yn unig drwy werthu nwyddau fel glo ymhlith pethau eraill, ond hefyd drwy werthu arfau, drwy werthu cyffuriau, drwy gymryd rhan mewn troseddau seibr.

 

“Mae’n hanfodol bwysig fod yr holl genhedloedd yn cydweithio’n ddiflino er mwyn gweithredu’r sancsiynau hynny oherwydd gorau po gyntaf yw’r pwysau economaidd ar Ogledd Corea fel bod modd dod â’r gyfundrefn at ei choed.”

Mae Chan Han Choi yn wynebu chwe chyhuddiad o drefnu’r gwerthiant ac o geisio trosglwyddo glo o Ogledd Corea i Indonesia a Fietnam.

Mae llys wedi gwrthod ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe allai wynebu hyd at ddeng mlynedd o garchar.