Mae’r priodasau cyntaf rhwng dau berson o’r un rhyw wedi’i chynnal yn Awstralia – dair wythnos yn gynharach na’r disgwyl.

Roedd disgwyl i’r briodas gyntaf gael ei chynnal ar Ionawr 9, ond priododd dau bâr ddydd Sadwrn – y naill yn Sydney a’r llall ym Melbourne.

Priododd Lauren Price, 31, ac Amy Laker, 29, yn Sydney gyda’u teulu o Gymru’n bresennol.

Ac fe briododd Amy ac Elise McDonald ym Melbourne ar ôl cael caniatâd arbennig gan fod eu teuluoedd wedi mynd i Awstralia ar gyfer y seremoni.

Mae disgwyl i bâr oedrannus briodi heddiw. Mae Lyn Hawkins, 85, yn dioddef o ganser ac mi fydd yn priodi Anne Sedgwick yn Perth ar ôl bod gyda’i gilydd ers dros 40 o flynyddoedd.

Priodasau eraill ar y gweill

Ddydd Llun, fe fydd Cas Willow, sy’n 53 oed ac yn dioddef o ganser, yn priodi Heather Richards, 56, ym Melbourne.

 

Maen nhw wedi bod mewn perthynas ers 17 o flynyddoedd.