Mae milwyr yn Nigeria wedi arestio mwy na 400 o aelodau Boko Haram, gan gynnwys milwyr, gwragedd a phlant oedd yn cuddio ar ynysoedd Llyn Chad.

Dyma’r nifer fwyaf o aelodau sydd wedi’u harestio ers rhai misoedd yng ngogledd-ddwyrain y wlad.

Cafodd nifer o aelodau eraill eu lladd yn dilyn cyrchoedd ar droed ac o’r awyr.

Cafodd 167 o filwyr, 67 o wragedd a 173 o blant eu harestio. Bydd y gwragedd a’r plant yn cael eu symud i wersylloedd, meddai’r awdurdodau.

Cafodd 57 o aelodau eu harestio mewn cyrch arall.

Boko Haram

Mae Boko Haram yn cael y bai am fwy nag 20,000 o farwolaethau dros gyfnod o wyth mlynedd o reolaeth.

Ac mae hynny wedi achosi argyfwng dyngarol, meddai ymgyrchwyr, sydd wedi mynegi pryder am nifer y menywod a phlant sydd wedi cael eu harestio a’u caethiwo.

Mae achosion llys mwy na 1,600 o aelodau ar y gweill ers mis Hydref wrth i Nigeria fynd i’r afael â phrinder lle yn y ddalfa.

Cyhoeddodd Arlywydd Nigeria, Muhammadu Buhari y llynedd fod Boko Haram wedi cael ei drechu.

Ond mae’r arweinydd Abubakar â’i draed yn rhydd o hyd wrth i’r aelodau barhau’n weithgar.

Mae Nigeria wedi derbyn biliwn o ddoleri yr wythnos hon i fynd i’r afael â’r frwydr yn erbyn Boko Haram.