Mae’r Canghellor wedi dweud wrth arweinydd China bod “llawer o gyfleoedd” ar gyfer datblygu cytundebau masnachol gyda gwledydd Prydain.

 

Mae Philip Hammond yn China i geisio taro bargeinion masnach yno wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Roedd yn Beijing ar gyfer “dialog economaidd” blynyddol, sydd yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad mwy pwysig eleni.

 

Yn cadw cwmni iddo ar yr ymweliad roedd grŵp anarferol o fawr o swyddogion economaidd a chynrychiolwyr busnes.

 

Dywedodd prif swyddog economaidd China, Li Keqiang, ei fod yn hyderus o “dwf cadarn” yn y berthynas rhwng China a Phrydain, waeth beth fydd yn digwydd yn y trafodaethau Brexit.

 

“Rydym yn gweld llawer o gyfleoedd i feithrin ein perthynas gref,” meddai Philip Hammond.