Mae sawl menyw wedi cyhuddo’r actor enwog Dustin Hoffman o gamymddwyn yn rhywiol.

Fe enillodd Oscar yr actor gorau yn 1980 am ei berfformiad yn y ffilm Kramer v Kramer, ac yn 1989 am ei ran yn Rain Man.

Dywed un ddynes fod yr actor wedi dinoethi o’i blaen mewn gwesty yn Efrog Newydd yn 1980 pan oedd hi yn 16 oed.

Yn ôl y dramodydd Cori Thomas, fe wnaeth yr actor enwog ofyn iddi dylino ei draed a gofyn sawl tro os oedd hi am ei weld yn noeth eto.

Roedd Cori Thomas yn siarad â chylchgrawn The Variety, sy’n cynnwys achos dynes arall, Melissa Kester, a ddywedodd fod yr actor wedi gwthio ei law i lawr ei throwsus.

Dydy swyddog cyhoeddusrwydd na chyfreithiwr Dustin Hoffman heb ateb e-byst yn gofyn am ymateb.

Dyma’r honiadau diweddaraf sydd wedi codi yn erbyn yr actor 80 oed, sydd wedi ennill Oscar.

Yn ôl yr actor Anna Graham Hunter, fe wnaeth Dustin Hoffman ei chyffwrdd a gwneud sylwadau amhriodol pan oedd yn ferch 17 oed yn gweithio ar set y ffilm, Death of a Salesman, yn 1985.

Mewn datganiad yn ymateb i’w chyhuddiadau, dywedodd Dustin Hoffman nad yw’r digwyddiad “yn adlewyrchu pwy ydw i”.