Mae Califfornia wedi rhannu’r trwyddedau cyntaf i fusnesau sy’n gobeithio gwerthu canabis.

Ar hyn o bryd, mae modd gwerthu canabis am resymau meddygol, ond o fis Ionawr ymlaen bydd modd i fusnesau werthu’r cyffur er dibenion eraill.

Hyd yma mae 20 busnes wedi derbyn y trwyddedau ond mae rheoleiddwyr canabis y dalaith wedi dweud eu bod yn bwriadu rhoddi “llawer mwy”.

Un cwestiwn sy’n codi yw a fydd Arlywydd Donald Trump yn ymyrryd â’r dalaith gan fod gwerthu canabis yn parhau’n anghyfreithlon ar lefel ffederal.